R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan
buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi cael ei gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau i bobl â salwch meddwl? OAQ(4)1734(FM)
2. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd? OAQ(4)1728(FM)W
3. David Rees (Aberafan):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd Llywodraeth Cymru o ran cyflawni’i thargedau newid yn yr hinsawdd?OAQ(4)1729(FM)
4. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru):Pa ymrwymiad a roddir gan Lywodraeth Cymru i gefnogi hosbisau yng Nghymru? OAQ(4)1724(FM)
5. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa brosiectau seilwaith mawr sydd gan Lywodraeth Cymru yn eu lle i ddangos bod Gogledd Cymru yn gyrchfan i fynd iddi? OAQ(4)1719(FM)
6. Janet Finch-Saunders (Aberconwy):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion i hyrwyddo Cymru fel lleoliad ar gyfer digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol? OAQ(4)1720(FM)
7. Mick Antoniw (Pontypridd):Pa asesiad a wnaeth y Prif Weinidog o'r cynnydd tuag at gydraddoldeb o ran cyflogau yng Nghymru?OAQ(4)1722(FM)
8. Sandy Mewies (Delyn):Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i amddiffyn henebion yng Nghymru rhag cael eu difrodi?OAQ(4)1727(FM)
9. Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau strategol ar gyfer addysg Gymraeg? OAQ(4)1731(FM)W
10. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd Cymru wrth fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd?OAQ(4)1733(FM)
11. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gefnogaeth sydd ar gael i fusnesau sy'n cychwyn ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed?OAQ(4)1735(FM)
12. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl Tîm Gorfodaeth Forol Llywodraeth Cymru?OAQ(4)1725(FM)
13. Christine Chapman (Cwm Cynon):Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella’r cyfleoedd sydd ar gael i fenywod yn economi Cymru?OAQ(4)1723(FM)
14. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog asesiad o effaith pleidlais ‘Ie’ yn refferendwm yr Alban ar Gymru? OAQ(4)1721(FM)W
15. Eluned Parrott (Canol De Cymru):Pa asesiad a wnaeth Llywodraeth Cymru o’r effaith a gaiff uwchgynhadledd NATO sydd ar ddod, ar Ganol De Cymru?OAQ(4)1732(FM)